Llofruddiaeth Clydach: Dyn yn ymddangos yn y llys

Mae dyn 47 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn ardal Clydach, Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Gellionnen nos Fercher, ble cafwyd hyd i gorff Frederic Pallade, dyn 48 oed o Ffrainc.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi byw yn Abertawe am rai blynyddoedd.

Fe wnaeth Andrew Tudor Jones, o Glydach, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Bydd nawr yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 23 Ebrill.

Mae teulu Mr Pallade wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi‘u hyfforddi‘n arbennig.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Giess: “Rydym yn ddiolchgar i‘r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau â‘r ymchwiliad hwn, a hoffwn eu sicrhau nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â‘r digwyddiad hwn.”